Datrys Problemau Mathemateg - Blwyddyn 4 ydy'r pedwerydd o chwe
llyfr yn y gyfres Datrys Problemau Mathemateg. Ysgrifennwyd y
llyfrau i athrawon eu defnyddio mewn gwersi mathemateg. Anelir y
cynnwys at ddatblygu sgiliau datrys problemau. Anogir plant i
ddewis a defnyddio ffeithiau rhif a strategaethau meddwl perthnasol
i ddatrys problem fel a nodir yn y Fframwaith Rhifedd Cenedlaethol.
Mae'r llyfr hwn wedi'i rannu'n dair pennod; Datblygu ymresymu
rhifyddol, Datblygu ymresymu rhifyddol: Adnabod prosesau a
chysylltiadau a Defnyddio sgiliau rhif. Cynlluniwyd y llyfrau fel
bod gan pob adran chwe cham o gwestiynau i'w hateb. Rhennir pob cam
yn dair lefel, er enghraifft 1a, 1b neu 1c, yn seiliedig ar
gyrhaeddiad. Mae pob cwestiwn cyfatebol o'r lefelau hyn yn dilyn yr
un llinell o gwestiynu, felly pan mae'r athro yn siarad am gwestiwn
penodol mae'r broses o ddatrys yr un fath i bob lefel ond mae'r
cymhlethdod yn amrywio.
General
Is the information for this product incomplete, wrong or inappropriate?
Let us know about it.
Does this product have an incorrect or missing image?
Send us a new image.
Is this product missing categories?
Add more categories.
Review This Product
No reviews yet - be the first to create one!