Diweddariad o'r gyfrol Cyflwyno'r Gymraeg: Llawlyfr i Diwtoriaid
(2000) dan olygyddiaeth Christine Jones yw Cyfoethogi'r Cyfathrebu:
Llawlyfr Ymarferol i Diwtoriaid Cymraeg i Oedolion. Mae'r gyfrol
hon yn cynnwys rhai o benodau'r gyfrol wreiddiol wedi'u diweddaru,
ynghyd a phenodau newydd ar feysydd sydd wedi dod yn fwy amlwg yn y
maes ers 2000 (er enghraifft, dysgu anffurfiol, addysgu ar-lein, y
fframwaith asesu newydd a chyfraniad y maes i bolisiau iaith
cenedlaethol). Ceir penodau ar y wers gyntaf, gweithgareddau
cyfathrebol, meithrin sgiliau gwahanol megis sgiliau ysgrifennu neu
sgiliau gwylio, a phennod agoriadol ar ddulliau dysgu ar dwf y maes
a'r syniadau a ddylanwadodd ar fethodoleg dros yr ugeinfed ganrif
a'r ganrif hon.
General
Is the information for this product incomplete, wrong or inappropriate?
Let us know about it.
Does this product have an incorrect or missing image?
Send us a new image.
Is this product missing categories?
Add more categories.
Review This Product
No reviews yet - be the first to create one!