Llyfryn byr i helpu'ch eglwys i gyflwyno neges Cristnogaeth i bobl
ifanc yn eu harddegau yw Stori Wir. Ysgrifennwyd Stori Wir gan Pete
Brown, sy'n weinidog ieuenctid ac yn efengylydd, ac mae'n gwahodd
pobl ifanc i feddwl am chwe achlysur yn yr Efengylau pryd y mae
Iesu'n cael dylanwad ar bobl eraill. Mae'n cynnwys: * Iaith weledol
gyfoethog a chyfoes.* Elfennau rhyngweithiol, yn cynnwys cwestiynau
i fyfyrio arnynt a lle i ysgrifennu nodiadau.* Fformat hwylus lle
mae darnau o'r Beibl yn cael eu cyflwyno mewn adrannau arbennig
mewn llyfryn mewnol pwrpasol. Mae Stori Wir yn anrheg ddelfrydol i
bobl ifanc sydd heb gysylltiad a chapel nac eglwys, rhai sy'n
chwilio, a Christnogion newydd sy'n awyddus i wybod mwy am neges
Cristnogaeth. Mae'n wych ar gyfer grwpiau ieuenctid, gwersylloedd
haf a digwyddiadau efengylu ac yn ddelfrydol ar gyfer: * ei roi i
bobl ifanc sy'n chwilio i'w ddefnyddio ar eu pen eu hunain; * ei
ddarllen gyda pherson ifanc neu gyda'r teulu cyfan;* ei ddefnyddio
gyda grwp bach yn yr eglwys neu mewn clwb ysgol.
General
Is the information for this product incomplete, wrong or inappropriate?
Let us know about it.
Does this product have an incorrect or missing image?
Send us a new image.
Is this product missing categories?
Add more categories.
Review This Product
No reviews yet - be the first to create one!