Yn ei arweiniad bywiog i farddoniaeth a beirdd y Cymry hyd at
gyfnod beirdd yr uchelwyr, llwydda Gwyn Thomas i brofi bod
traddodiad o unrhyw werth yn beth byw a chreadigol. Ceir yn y llyfr
yma gyflwyniad i nodweddion barddoniaeth y cyfnodau gwahanol yn ein
traddodiad, i'r personoliaethau y tu ol i'r farddoniaeth ac i'r
cerddi eu hunain, wedi'u cyfieithu i Gymraeg cyfoes a bywiog. Dyma
un o'r llawlyfrau mwyaf defnyddiol ym maes llenyddiaeth Gymraeg ac
un sy'n cyfuno ysgolheictod o'r radd flaenaf ag arddull sionc ac
apelgar. Cyflwynir y deunydd mewn modd fydd yn apelio at bawb sy'n
ymddiddori mewn barddoniaeth Gymraeg ond eto bydd yn addas ar gyfer
myfyrwyr y traddodiad barddol.
General
Is the information for this product incomplete, wrong or inappropriate?
Let us know about it.
Does this product have an incorrect or missing image?
Send us a new image.
Is this product missing categories?
Add more categories.
Review This Product
No reviews yet - be the first to create one!